Holl Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

                                                                            

 

18 Rhagfyr 2015

 

Annwyl bawb,

Rwyf wedi cael y pleser o gwrdd â llawer ohonoch dros y misoedd diwethaf. Mae fy nghyd-aelodau newydd ar y Bwrdd Taliadau hefyd wedi cael y cyfle i gwrdd â rhai ohonoch i ddysgu mwy am eich rolau yn y Cynulliad. Rydym yn ddiolchgar am y croeso cynnes rydym wedi'i dderbyn ac yn edrych ymlaen at weithio gyda chi dros y misoedd nesaf.

 

Cynhaliwyd ein cyfarfod ffurfiol cyntaf ar 10 Rhagfyr. Trafodom ein rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn i ddod a'n ffyrdd o weithio, a gwnaethom benderfyniadau ar rai materion pwysig.

 

Cyn cychwyn y Cynulliad nesaf, mae angen i ni benderfynu ar lefelau tâl staff cymorth yr Aelodau a'r lwfansau ar gyfer costau swyddfa a llety preswyl. Rydym yn ymwybodol bod gennym ychydig iawn o amser i wneud unrhyw adolygiad manwl o'r materion pwysig hyn. Rydym hefyd yn ymwybodol o'r gwaith a wnaed gan y Bwrdd blaenorol yn y blynyddoedd diwethaf ac felly rydym yn hyderus y gallwn ddychwelyd i drafod y materion hyn yn fanylach os bydd angen yn dilyn etholiadau'r Cynulliad.

 

Mae crynodeb yn dilyn o'n trafodaeth a'n penderfyniadau.

 

Cyflogau Aelodau'r Cynulliad

 

Ar ôl cryn waith ymchwil ac ystyriaeth, pennodd y Bwrdd blaenorol gyflog sylfaenol yr Aelodau, a chyflogau ychwanegol i ddeiliaid swyddi, a fydd yn cael eu talu yn y Cynulliad nesaf. Buom yn trafod a ddylid parhau â'r hyblygrwydd presennol, sy'n caniatáu i Aelodau wrthod rhan o'u hawl cyflog.

 

Rydym yn gadarn o'r farn y dylid rhoi'r tâl priodol i'r Aelodau i adlewyrchu cymhlethdod a phwysigrwydd y rôl. Mae hyn hefyd yn cyd-fynd â'n dyletswydd i beidio ag atal, am resymau ariannol, personau sydd â'r ymrwymiad a’r gallu angenrheidiol rhag ceisio cael eu hethol.

 

Rydym yn cytuno, felly, y bydd yr Aelodau yn y Pumed Cynulliad yn cael eu cyflog sylfaenol, ac unrhyw gyflog deiliad swydd ychwanegol sy'n berthnasol, a hynny'n llawn.

 

Wrth gwrs, ar ôl derbyn y cyflog, mater i bob Aelod unigol yw sut y maent yn dewis ei ddefnyddio. Gall y tîm Cymorth Busnes i'r Aelodau roi cyngor ac arweiniad os bydd unrhyw Aelod yn dymuno cymryd rhan yng nghynllun rhoi trwy'r gyflogres y Cynulliad neu ddewisiadau eraill o'r fath.

 

Byddwn yn ysgrifennu at Gomisiwn y Cynulliad i roi gwybod iddo am ein penderfyniad fel y gall y tîm Cymorth Busnes i'r Aelodau adlewyrchu hyn yn ei drefniadau a'i gyngor i'r Aelodau.

 

Penderfyniad ar gyfer y Pumed Cynulliad

 

Cyflogau staff cymorth Aelodau'r Cynulliad 2016-17

 

Trafododd y Bwrdd y cyd-destun ehangach o dâl ar draws y DU yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae gweithwyr y sector preifat ar gyfartaledd yn parhau i weld twf cyflog gwirioneddol wrth i newidiadau mewn cyflog canolrif barhau i fod yn uwch na chwyddiant; yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2015, twf RPI oedd 0.8% ac CPI oedd -0.1%. Mae'r sector cyhoeddus yn parhau i fod yn ddarostyngedig i ataliad cyflog Llywodraeth y DU o 1% dros y pedair blynedd nesaf.

 

Y llynedd, cynigiodd y Bwrdd y dylid defnyddio'r enillion canolrif blynyddol Cymreig diweddaraf ar gyfer staff amser llawn (fel y caiff ei fesur yn ôl yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion) i uwchraddio cyflogau Aelodau'r Cynulliad a chyflogau eu staff cymorth. Roeddem yn cytuno mai dyma oedd y mynegai mwyaf addas ar gyfer pennu cynnydd cyflog priodol ar gyfer 2016-17.

 

Cyhoeddwyd y ffigurau ASHE dros dro ar gyfer 2015 o 1.1% ym mis Tachwedd 2015; nid oes disgwyl ffigurau diwygiedig tan fis Tachwedd 2016.

 

Felly, rydym yn cynnig cynnydd o 1.1% yng nghyflogau staff cymorth Aelodau'r Cynulliad ar gyfer 2016-17 yn unol â ffigurau dros dro 2015 ar gyfer enillion canolrif ASHE yng Nghymru

 

A fyddech cystal ag anfon unrhyw ymatebion i'r cynnydd arfaethedig erbyn 12 Chwefror 2016 er mwyn llywio ein trafodaethau yn ein cyfarfod nesaf.

 

 

Trothwy cymhwyso ar gyfer tâl salwch staff cymorth

 

Fel rhan o'r adolygiad o delerau ac amodau staff cymorth Aelodau'r Cynulliad a gychwynnwyd o dan y Bwrdd blaenorol, cawsom wahoddiad i drafod y mater sydd angen ei ddatrys ynghylch a ddylid cyflwyno cyfnod cymhwyso cyn rhoi tâl salwch i staff cymorth.

 

Ar hyn o bryd, nid oes cyfnod cymhwyso ar gyfer cyflog salwch:

 

·         Mae'r Hawl i dâl salwch yn dechrau ar y diwrnod cyntaf

·         Mae gan staff yr hawl i chwe mis o gyflog llawn a chwe mis ar hanner cyflog mewn cyfnod o bedair blynedd.

 

Trafodom sylwadau gan staff cymorth a'u cynrychiolwyr o'r Undebau Llafur. Nodom hefyd fod gwybodaeth gyfyngedig ar gael ynghylch cofnodi absenoldeb oherwydd salwch gan staff cymorth Aelodau'r Cynulliad. Mae hyn yn anffodus gan ei fod yn ei gwneud yn anodd asesu effaith unrhyw newid polisi. Yn bwysicach, mae'n awgrymu ei bod yn bosibl nad yw arfer da sylfaenol o ran rheoli staff yn cael ei ddilyn yn gyson ar draws swyddfeydd yr Aelodau.

 

Cytunom na fyddai'n briodol cyflwyno trothwy cymhwyso ar gyfer tâl salwch ar hyn o bryd.

 

Costau swyddfa 2016-17

 

Trafododd y Bwrdd y lwfans costau swyddfa ac a yw'n parhau i fod yn briodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-17. Trafododd y Bwrdd nifer o ffactorau, gan gynnwys costau rhentu swyddfa ar draws Cymru a chwyddiant: yr amcangyfrif diweddaraf a ddisgwylir ar ddiwedd 2015-16 yw twf CPI o 1.0% ac RPI o 1.9%.

 

Rydym yn cynnig cynnydd o 1% ar y lwfans costau swyddfa neu gan y newid yn y CPI yn y flwyddyn hyd at fis Ebrill 2016, p'un bynnag yw'r mwyaf.

 

A fyddech cystal ag anfon unrhyw ymatebion i'r cynnydd arfaethedig atom erbyn 12 Chwefror 2016.

 

Lwfansau preswyl 2016-17

 

Cymerodd y Bwrdd olwg gyntaf ar a ddylid diwygio'r lwfans preswyl i'r Aelodau. Byddwn yn ei drafod ymhellach yn ein cyfarfod ym mis Ionawr, pan fyddwn yn ymgynghori ar ein cynnig.

 

Hoffem gael rhagor o wybodaeth ynghylch a yw cytundebau rhentu unrhyw Aelodau yn cynnwys unrhyw gynnydd blynyddol mynegrifol neu gynnydd canran i'n helpu i asesu'r dull priodol o adolygu'r lwfans preswyl o flwyddyn i flwyddyn. Bydd y tîm Cymorth Busnes i'r Aelodau yn gofyn i'r Aelodau sydd â chytundebau rhentu am y wybodaeth hon dros yr wythnosau nesaf.

 

Y cynllun pensiwn newydd – Mai 2016

 

Mae cynghorwyr cyfreithiol y Bwrdd wedi cadarnhau na fyddai caniatáu i wasanaeth yn y dyfodol gyfrif o dan y rheol 80, fel y cynigiwyd gan y Bwrdd blaenorol, yn bodloni gofynion yn y ddeddfwriaeth gwahaniaethu ar sail oedran. Mae hyn yn cyd-fynd â'r cyngor cyfreithiol y derbyniodd ymddiriedolwyr y cynllun.

 

I fynd i'r afael â'r pryderon hyn, rydym wedi penderfynu na fydd gwasanaeth yn y dyfodol ar ôl 6 Mai 2016 yn cyfrif fel gwasanaeth cymhwysol o dan y Rheol 80.

 

Byddwn yn cysylltu'n uniongyrchol â'r rheini y bydd y penderfyniad hwn yn effeithio arnynt i esbonio'r goblygiadau iddynt.

 

Yn ein cyfarfod, cawsom y diweddaraf hefyd gan y Tîm Pensiynau, yn nodi sut y bydd yn gweithredu Cynllun Pensiwn newydd yr Aelodau newydd dros y deuddeg mis nesaf ac yn cyfleu'r newidiadau i'r Aelodau.

 

Mae cyngor ar bensiynau yn y Pumed Cynulliad ar gael gan Donna Davies, y Pennaeth Pensiynau ar 0300 200 6523 a Donna.Davies@cynulliad.cymru

 

I gloi

 

Rwy'n gobeithio bod y diweddariad hwn wedi bod o ddefnydd i chi. Y bwriad yw cyhoeddi'r llythyr hwn ar ein gwefan wedi i'r Aelodau gael y cyfle i'w ddarllen. Mae croeso i chi gysylltu â mi os bydd gennych unrhyw adborth ar unrhyw un o'r materion uchod. 

 

Rwyf bob amser yn fwy na bodlon cwrdd ag Aelodau unigol. Rwy'n bwriadu parhau i gynnal sesiynau galw heibio rheolaidd yn ystod Cyfarfodydd Llawn a chwrdd â Grwpiau Cynrychioli Aelodau'r Cynulliad a'r Staff Cymorth. Os hoffech drafod unrhyw beth gyda mi, cysylltwch â Gwion Evans, clerc newydd y Bwrdd, yn taliadau@cynulliad.cymru i wneud trefniadau (estyniad 7403). 

 

Gan ddymuno Nadolig bodlon a heddychlon i chi.

Cofion gorau,

Y Fonesig Dawn Primarolo

Cadeirydd

Y Bwrdd Taliadau